Gwenno Ffrancon
Joined: 05 Apr 2004 Posts: 9 Location: Bangor
|
Posted: Wed Mar 09, 2005 6:55 pm Post subject: Galwad am Erthyglau Cyfrwng 3 Call for Papers |
|
|
Erthyglau
Gwahoddir cyfraniadau ar gyfer trydydd rhifyn Cyfrwng a gyhoeddir yn Ebrill 2006. Cyfraniadau i’w cyflwyno erbyn 1 Awst 2005 ar y thema 'ieuenctid'.
Ni ddylai’r erthyglau fod mwy na 8,000 o eiriau mewn hyd gan gynnwys troednodiadau. Dylid cyflwyno dau gopi printiedig o’r erthygl ynghyd â chopi electronig a chrynodeb o ryw 100-150 o eiriau, pump neu chwech gair allweddol a chyfeiriad ebost a gohebu’r awdur. Gellir cyflwyno’r erthyglau yn Gymraeg neu’n Saesneg a dylid dilyn y canllawiau arddull sydd i'w cael ar wefan Cyfrwng.
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â’r golygyddion Dr James Thomas a Dr Gwenno Ffrancon: ymholiadau@cyfrwng.com
Adolygiadau
Croesewir adolygiadau o unrhyw waith perthnasol sydd wedi ei gyhoeddi (print neu electronig) neu gynyrchiadau. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r golygydd adolygiadau, Dr Lisa Lewis: adolygiadau@cyfrwng.com
____________________________________________________________
Articles
Contributions are invited for the third issue of Cyfrwng to be published in April 2006. Contributions on the theme of 'youth' should be submitted by
1 August 2005.
Articles should not exceed 8,000 words including notes and references. Articles should be submitted in duplicate and should be accompanied by an abstract of 100 to 150 words, five or six keywords and author’s correspondence and email address. Articles can be submitted in English or Welsh and should follow these set presentation guidelines found on the Cyfrwng website.
If you require further information, please contact the editors Dr James Thomas and Dr Gwenno Ffrancon: info@cyfrwng.com
Reviews
Reviews of relevant published work (print or electronic) or productions are welcomed. For further information, contact the reviews editor, Dr Lisa Lewis: reviews@cyfrwng.com |
|