 |
Fforwm Cyfrwng Forum Yn ymdrin â'r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt Analysing the media in Wales and worldwide
|
| View previous topic :: View next topic |
| Author |
Message |
Llion Jones
Joined: 01 Apr 2004 Posts: 4 Location: Bangor
|
Posted: Mon Jun 07, 2004 3:01 pm Post subject: Y Gymraeg a'r Cyfryngau Newydd |
|
|
Un o'r sylwadau mwyaf cyrhaeddgar yn erthygl ddifyr Grahame Davies yn y rhifyn cyntaf o Cyfrwng yw'r awgrym bod siaradwyr Cymraeg | Quote: | | wrth fentro i'r seibr-ofod, yn dwyn gyda hwy yr un diddordebau a blaenoriaethau cymunedol a'u cynhaliodd ym myd y radio, y teledu a'r papur bro. |
Ac ymhellach, | Quote: | | nad yw'r broses o globaleiddio sydd ynghlwm wrth ddatblygiad technoleg cyfathrebu yn golygu o reidrwydd fod ffiniau yn pylu a'r ymdeimlad o berthyn yn gwanio |
Er bod y sylw hwn yn cael ei gynnig gan Grahame Davies yng nghyswllt ei ddadansoddiad o'r elfennau hynny sydd wedi profi'n boblogaidd yng ngwasanaeth BBC Cymru'r Byd, y mae'n awgrym sy'n teilyngu ystyriaeth hefyd yng nghyd-destun ehangach y Gymraeg a'r cyfryngau newydd.
Ar yr olwg gyntaf, mae poblogrwydd rhyfeddol y bwrdd trafod Cymraeg ei iaith, Maes-e, er enghraifft, yn ymddangos fel pe bai'n cadarnhau dadl Grahame Davies. Wedi'r cyfan, onid hanfod y bwrdd trafod hwnnw yw'r awydd cymunedol oesol i roi'r byd yn ei le? Ac mewn seiadau brwd, yn amrywio o chwaraeon i wleidyddiaeth, dyna a wneir yn ddyddiol, gyda'r dimensiwn Cymraeg a Chymreig yn cael lle amlwg iawn. Ac eto, pan edrychwn ni ar y seiat 'Ffilmiau, Teledu a Radio', fe welwn mai prin yw'r trafod ar gynnyrch Cymreig a Chymraeg a bod llawer iawn mwy o fynd ar drafod Kill Bill a Friends a'u tebyg.
Wrth gwrs, mae hon yn ddeuoliaeth yr ydym i gyd yn gyfarwydd iawn â hi, ac mae'r cwestiwn sy'n codi yn un yr ydym wedi'i glywed o'r blaen. Wrth hawlio cyfrwng newydd i'r iaith a ydym hefyd yn hawlio'r diwylliant sydd ynghlwm ag ef? Gofyn ydw i, nid dweud! |
|
| Back to top |
|
 |
Grahame Davies
Joined: 09 Jun 2004 Posts: 1 Location: Caerdydd
|
Posted: Wed Jun 09, 2004 8:30 pm Post subject: |
|
|
| Ie, mae'n ddiddorol gweld y ffordd mae'r byd Cymraeg yn datblygu ar y we, ac fel mae gwahanol safleoedd yn cyflawni gwahanol swyddogaethau. Er mai Cymru'r Byd yw'r wefan fwya ei defnydd yn y Gymraeg o bell ffordd, a'r drydedd wefan fwya' ei defnydd o unrhyw fath yng Nghymru, mae'n ymddangos mai darllen y cynnyrch y mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn dymuno ei wneud yn hytrach na defnyddio'r lle fel fforwm i drafod pethau. O ran cynnal trafodaethau, mae'n amlwg mai Maes-e yw'r ffefryn. Mae ein hystadegau yn dangos bod Maes-e ymhlith yr 20 wefan uchaf sy'n anfon defnyddwyr at Cymru'r Byd. Mae'r ddau safle yn datblygu swyddogaethau sy'n wahanol ond sy'n atgyfnerthu eu gilydd, a chanlyniad y cyfan yw fod llawer o ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg yn digwydd, sy'n beth braf iawn. |
|
| Back to top |
|
 |
|
|
You cannot post new topics in this forum You cannot reply to topics in this forum You cannot edit your posts in this forum You cannot delete your posts in this forum You cannot vote in polls in this forum
|
Powered by phpBB © 2001, 2005 phpBB Group
|