 |
Fforwm Cyfrwng Forum Yn ymdrin â'r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt Analysing the media in Wales and worldwide
|
| View previous topic :: View next topic |
| Author |
Message |
Gwenno Ffrancon
Joined: 05 Apr 2004 Posts: 9 Location: Bangor
|
Posted: Thu Apr 29, 2004 5:09 pm Post subject: Dal: Yma/Nawr |
|
|
Meddwl oeddwn i y gallem drafod rhyw gymaint ar ffilm Gymraeg ddiweddaraf Marc Evans, 'Dal: Yma/Nawr'.
Dwi mewn dau feddwl a yw hi'n llwyddo ai peidio! Mae'n amlwg nad yw'n adloniant traddodiadol – montage o ddelweddau argraffiadol yn gymysg â geiriau yw'r ffilm.
Yn bendant mae iddi rym gweledol, yn wir mae'r delweddau'n aml iawn yn swynol, ond er gwaethaf y delweddau trawiadol, atyniad y sêr, a chyfoeth y traddodiad barddol Cymraeg, prin bod y ffilm yn llwyddo fel cyfanwaith ac, ar adegau, y mae fel petai’n trio’n rhy galed. A yw testun ac arddull y ffilm wedi bod yn atyniad i'r gynulleidfa fodern, tybed?
Er i mi ei mwynhau, fedra i ddim llai na'i gweld hi fel arbrawf dewr sy’n cyfuno dwy gelfyddyd digon tebyg – ffilm a barddoniaeth - dau gyfrwng sy’n ddibynnol ar gynildeb a disgyblaeth. |
|
| Back to top |
|
 |
Heledd Gruffydd
Joined: 18 Apr 2004 Posts: 1 Location: Caerdydd
|
Posted: Mon Jun 07, 2004 8:21 pm Post subject: |
|
|
Tra'n derbyn yr awgrym fod barddoniaeth a ffilm yn eu hanfod yn gyfryngau digon tebyg o ran eu dibyniaeth ar ddelweddau, yr hyn sy'n allweddol mewn unrhyw ymgais i gyflwyno barddoniaeth mewn modd gweledol, yw sicrhau nad yw delweddau'r sgrin yn ailadrodd delweddau'r gerdd trwy eu dehongli'n llythrennol.
O'r safbwynt hwn, mae ffilm Marc Evans yn llwyddiant diamheuol. O'r golygfeydd awgrymog o Eisteddfod Ty Ddewi hyd at y lluniau o stadiwm y mileniwm, mae delweddau'r camera yn amlach na pheidio yn tywys dychymyg y gwyliwr i gyfeiriadau gwahanol i'r hyn sydd ymhlyg yn nelweddau'r cerddi; weithiau'n bwydo arnynt, dro arall yn ymateb yn adweithiol iddynt. Mae hynny yn ei dro yn cyfoethogi profiad y gwyliwr yn fawr, gan wneud y ffilm hon, nid yn unig yn wledd i'r llygaid, ond hefyd yn wledd i'r dychymyg. |
|
| Back to top |
|
 |
|
|
You cannot post new topics in this forum You cannot reply to topics in this forum You cannot edit your posts in this forum You cannot delete your posts in this forum You cannot vote in polls in this forum
|
Powered by phpBB © 2001, 2005 phpBB Group
|