David Berry 1943-2010
Gyda thristwch mawr y clywodd aelodau Cyfrwng am farwolaeth annhymig yr hanesydd ffilm a’r cyfryngau, David Berry, ar 22 Ionawr 2010. Bu Dave yn un o gefnogwyr selocaf Cyfrwng dros y blynyddoedd, a rhannai ei gyngor a’i wybodaeth yn hael â ni. Ymgorfforai brif fwriad Cyfrwng, sef pontio’r byd academaidd a’r diwydiant cyfryngau, a bu’n rhan anhepgor o’n gweithgareddau o’r cychwyn cyntaf. Braint o’r mwyaf, felly, oedd cyflwyno Gwobr Cyfrwng iddo yn 2005 i gydnabod ei gyfraniad arbennig i’r gwaith o hyrwyddo’r cyfryngau torfol yng Nghymru.
Ac yntau’n chwilotwr mor ddiwyd a dyfalbarhaus, heb ddygnwch a brwdfrydedd Dave mae’n ddigon posib na fyddem fel cenedl wedi ailddarganfod ac adfer trysorau megis yr animeiddiad Jerry the Troublesome Tyke neu gampwaith Maurice Elvey, The Life Story of David Lloyd George (1918).
Bu Dave yn ysbrydoliaeth i ddegau o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ym maes hanes ffilm, nid yn unig yng Nghymru ond ledled Gwledydd Prydain a’r Cyfandir. Mae ei gyfrol ardderchog, Wales and the Cinema, the First Hundred Years (1994), yn destun cwbl anhepgor. Yn unol â’i natur hael arferol, roedd Dave yn fwy na pharod i dreulio oriau yn trin a thrafod ffilm ac yn rhannu ei ddarganfyddiadau a’i wybodaeth ag unigolion o’r un anian ag ef. Roedd yn drysorfa o wybodaeth am hanes ffilm ac yn un, o bosib, na welir ei debyg eto yng Nghymru.
Yn ôl John Hefin, Cadeirydd Cyfrwng: ‘Sais gwych oedd Dave Berry. Brwydrodd yn ddiflino, ac yn aml yn ddi-dâl, i greu ei gampwaith Wales and the Cinema – llyfr sy’n glasur llunyddiaeth – ac fe saif y gyfrol hynod werthfawr hon yn gofeb gariadus i’w gyfraniad amhrisiadwy.’
Dyma golled aruthrol i faes ffilm a’r cyfryngau yng Nghymru, a cholled fwy i’r rhai ohonom a gafodd y fraint o adnabod Dave a’i alw’n ffrind.
