English

Gwobr Goffa James Thomas

Braint ac anrhydedd i Cyfrwng yw medru cynnal cystadleuaeth Gwobr Goffa James Thomas. Roedd Dr James Thomas (1971–2007) yn un o gyd-sylfaenwyr Cyfrwng ac yn gyd-olygydd tri rhifyn cyntaf y cyfnodolyn.

Fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad a'i weledigaeth, ceir gwobr flynyddol wedi ei sefydlu yn ei enw er mwyn annog myfyrwyr ôl-radd ac ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa i gyfrannu i’r trafodaethau ar gyfryngau Cymru trwy ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno ysgrif i’w chyhoeddi yn Cyfrwng.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno erthyglau yw Mai 1af bob blwyddyn.

Manylion pellach (pdf)