Canllawiau i Awduron
Erthyglau
Gwahoddir cyfraniadau ar gyfer rhifynnau nesaf Cyfrwng:
Seithfed Rhifyn: a gyhoeddir ym Mai 2010.
Wythfed Rhifyn: a gyhoeddir yn Ebrill 2011.
Cyfraniadau i’w cyflwyno erbyn 1 Mai 2010.
Nawfed Rhifyn: a gyhoeddir yn Ebrill 2012.
Cyfraniadau i’w cyflwyno erbyn 1 Mai 2011.
Ni ddylai'r erthyglau fod mwy na 8,000 o eiriau mewn hyd gan gynnwys troednodiadau. Dylid cyflwyno dau gopi printiedig o'r erthygl ynghyd â chrynodeb o ryw 100-150 o eiriau, pump neu chwech gair allweddol a chyfeiriad ebost a gohebu'r awdur. Gellir cyflwyno'r erthyglau yn Gymraeg neu'n Saesneg a dylid dilyn y canllawiau arddull hyn: Canllawiau Cyfrwng.
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â'r golygyddion Dr Gwenno Ffrancon, Dr John Jewell a Dr Lisa Lewis trwy ymholiadau@cyfrwng.com
Adolygiadau
Croesewir adolygiadau o unrhyw waith perthnasol sydd wedi ei gyhoeddi (print neu electronig) neu gynyrchiadau. Fel arfer gofynnir am adolygiad o 1,000 o eiriau.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dr Gwenno Ffrancon, Cyfrwng, Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP neu trwy ymholiadau@cyfrwng.com

