English
Cynhadledd Myfyrwyr Ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru
21 Medi 2012
ATRiuM, Prifysgol Morgannwg


Cofrestru ar agor

Ffurflen gofrestru (ffurf .doc) (ffurf .pdf)

Rhaglen y gynhadledd (ffurf .pdf)

Manylion teithio a llety (ffurf .pdf)


Cynhelir cynhadledd gyntaf Myfyrwyr ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru yn yr ATRiuM, Prifysgol Morgannwg, Caerdydd. Cynhadledd ddwyieithog yw hon ag iddi ddau brif nod, sef rhoi cyfle i ôl-raddedigion gyflwyno ffrwyth eu hymchwil a hynny mewn awyrgylch gefnogol ac adeiladol, ac yn ail, bydd yn fodd o greu cymuned genedlaethol o fyfyrwyr ôl-radd ym maes y diwydiannau creadigol.

Bydd cyflwyniadau, yn Gymraeg a Saesneg, gan academyddion ifanc sydd yn astudio tuag at radd MA, MA trwy ymchwil, MPhil neu PhD, ac yn archwilio unrhyw agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio yng nghyd-destun Cymru.

Yn ogystal â llwyfannu cyflwyniadau papurau gan fyfyrwyr ôl-radd, nod y gynhadledd yw trefnu sesiynau a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwil ystyried sut i fynd ati i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil, a sut i wneud yr ymchwil yn berthnasol i gynulleidfa ehangach. Bydd cyfle hefyd i gwrdd ag academyddion blaenllaw ym maes y diwydiannau creadigol a fydd yn ymateb i'ch cyflwyniadau ac yn eich cynghori er mwyn cefnogi'ch datblygiad fel ymchwilydd ifanc.

Bydd papur gorau’r gynhadledd hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Cyfrwng: Media Wales Journal – Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru neu gyfnodolyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwerddon. Darperir mwy o fanylion am y cyfle hwn maes o law.

Caiff y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Morgannwg. Ni fydd tâl cofrestru ar gyfer y gynhadledd a bydd lluniaeth wedi'i ddarparu am ddim i bob cynadleddwr, diolch i nawdd y sefydliadau canlynol:

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais, ac i rannu syniadau â chi ac i gyd-drafod.