English
Cynhadledd Ryngwladol ar berthynas llenyddiaeth â'r cyfryngau mewn Cenhedloedd Bychain

12 - 13 Gorffennaf 2012

Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe

GALWAD AM BAPURAU

Dyddiad cau ar gyfer cynigion: Mawrth 1af 2012

Gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer cynhadledd flynyddol Cyfrwng a gynhelir gan Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, Cymru. Gwahoddwn gyflwyniadau gan academyddion, ymarferwyr y celfyddydau a'r cyfryngau, a gwneuthurwyr polisi, yn y meysydd astudiaeth canlynol: Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio.

Bwriad Cyfrwng 2012 yw trafod y berthynas a geir rhwng llenyddiaeth a'r cyfryngau a hynny mewn Cenhedloedd Bychain. Yma yng Nghymru, ac yn enwedig yn y Gymraeg, fe geir perthynas agos rhwng ein canon llenyddol a'r cynyrchiadau dramatig a welir ar ein sgriniau a'n llwyfannau. Gobeithir yn y gynhadledd hon rannu profiadau a syniadau am y berthynas honno, ei dylanwad a'r ymateb iddi.

Croesewir cynigion ar gyfer papurau, paneli trafod cyflawn, gweithdai, dangosiadau a pherfformiadau yn trafod unrhyw agwedd ar thema'r gynhadledd, gan gynnwys, er na chyfyngir ceisiadau i'r pynciau canlynol:

Gwahoddwn y sawl sy’n ymwneud â gwaith deallusol mewn sefydliadau fel prifysgolion, a hefyd y sawl sy'n ymwneud â'r celfyddydau a'r cyfryngau yn broffesiynol, i rannu eu gwaith.

Ni ddylai papurau fod yn fwy nag 20 munud o hyd, ond byddwn yn ystyried amrywiol amseroedd ar gyfer perfformiadau byr, dangosiadau a.y.b. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer arddangosfeydd bychan. Croesewir hefyd gynigion ar gyfer paneli trafod cyflawn. Danfonwch gynigion o oddeutu 300 o eiriau (ar gyfer papurau unigol) ynghyd â bywgraffiad byr i'r cyfeiriad canlynol os gwelwch yn dda: e.price@abertawe.ac.uk

Am ragor o wybodaeth ar Academi Hywel Teifi ewch i'w gwefan: www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

Am ragor o wybodaeth ar Brifysgol Abertawe, ewch i: www.swansea.ac.uk

Am ragor o wybodaeth am ddinas Abertawe, ewch i: www.visitswanseabay.com

Edrychwn ymlaen i gael clywed gennych, i drefnu gyda chi, ac wrth gwrs, i gyd-drafod!