Gwobr Cyfrwng
Gwobr arbennig ac unigryw yw hon gan Cyfrwng a gyflwynir i unigolyn sydd â chysylltiadau â byd academaidd y cyfryngau ynghyd â’r diwydiant cyfryngau – i gydnabod cyfraniad arbennig ym maes hyrwyddo’r cyfryngau torfol yng Nghymru.
Y gof adnabyddus Ann Catrin Evans o Gaernarfon a gomisiynwyd i ddylunio a chreu tlws Gwobr Cyfrwng - gwaith trawiadol iawn wedi ei lunio o haearn a llechen. Bedyddiodd Ann Catrin y tlws yn 'chwyldro' gan ei fod yn cyfleu cyfraniad y rheini sydd yn derbyn y tlws i fyd y cyfryngau a pherfformio yng Nghymru.
Gwobr Goffa James Thomas
Sefydlwyd Gwobr Goffa James Thomas fel cydnabyddiaeth o gyfraniad Dr James Thomas (1971–2007), un o gyd-sylfaenwyr Cyfrwng a chyd-olygydd tri rhifyn cyntaf y cyfnodolyn.
Nod y wobr yw annog myfyrwyr ôl-radd ac ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa i gyfrannu i’r trafodaethau ar gyfryngau Cymru trwy ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno ysgrif i’w chyhoeddi yn Cyfrwng.

