English

Gwobr Cyfrwng 2009: Elan Closs Stephens

Gwobr Cyfrwng 2009

Enillydd Gwobr Cyfrwng 2009 yw’r Athro Elan Closs Stephens, CBE, Athro Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth.

Anrhydeddwyd yr Athro Stephens mewn seremoni a chinio fel rhan o Gynhadledd Cyfrwng 2009. Cynhaliwyd y gynhadledd eleni rhwng 7-8 Mai yng Nghanolfan Ddarlledu BBC Cymru Wales, Llandaf. Cyflwynwyd y wobr i’r Athro Stephens i gydnabod cyfraniad eithriadol ym maes hyrwyddo’r cyfryngau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Ganed yr Athro Stephens yn Nhal-y-sarn, yn nyffryn chwarelyddol Nantlle, a’i haddysgu yn Ysgol Dyffryn Nantlle cyn iddi ennill Ysgoloriaeth Agored i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Ymunodd ag Adran Ddrama Prifysgol Aberystwyth ym 1975 ac ers hynny y mae’r mewnlif o fyfyrwyr yn yr adran wedi cynyddu o 24 i oddeutu’r mil cyfredol o fyfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig sydd yno. A hithau wedi gwasanaethu fel Pennaeth Adran yn ystod degawd hanfodol o ailstrwythuro, dychwelodd i’r adran fel Athro Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol ac yn Gyfarwyddwr Menter a Phartneriaethau Allanol yno.

Y mae cyfraniad Yr Athro Stephens i’r gwaith o hybu’r cyfryngau a’r celfyddydau ym myd addysg uwch a’r diwydiant yn aruthrol. Yn ysgolhaig ac athro diwyd, y mae wedi bod, ac yn parhau i fod, yn allweddol wrth feithrin gyrfaoedd cenedlaethau o ddarlledwyr, dramodwyr, artistiad ac academyddion Cymreig. Mae’n sylwebydd rheolaidd ar y celfyddydau mewn cyfnodolion, cyfrolau ac yn y wasg, a chydnabuwyd ei chyfraniad i’w maes dewisol ymhlith Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2001 pan dderbyniodd CBE am ei gwasanaeth i ddarlledu a’r iaith Gymraeg.

Meddai John Hefin, Cadeirydd Cyfrwng:
“Fel ysgolhaig blaenllaw yn y diwydiannau creadigol, y mae’r Athro Elan Closs Stephens yn llwyr haeddu ennill Gwobr Cyfrwng; y mae’n ffigwr allweddol ym myd y cyfryngau a’r celfyddydau creadigol cyfoes yng Nghymru ac y mae wedi bod yn amlwg iawn wrth lywio a dylanwadu ar nifer o agweddau ar y maes yn nhermau addysg uwch a’r diwydiant.”

Ymhlith ei phrif gyfraniadau i ddiwydiant y cyfryngau a’r celfyddydau creadigol y mae ei dau dymor fel Cadeirydd Awdurdod S4C (1998-2006) yn ystod cyfnod o newid aruthrol ym myd darlledu yn y Deyrnas Unedig. Bu hefyd yn Gadeirydd Adroddiad Stephens (2006) ar strwythur ac ariannu’r celfyddydau yng Nghymru ar adeg o gryn densiwn rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a byd y Celfyddydau. Y mae Adroddiad Stephens bellach wedi ei roi ar waith gan y Llywodraeth.

Yn ystod ei gyrfa, y mae’r Athro Stephens wedi gwasanaethu gyda bri fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chyngor Darlledu Cymru, ac fel un o Lywodraethwyr Sefydliad Ffilm Prydain (2001-2007) a Llywodraethwyr Prifysgol Morgannwg. Tan 2009 bu’n Ymddiriedolwr Byd-eang o Fwrdd y Cyngor Prydeinig ac y mae’n parhau i gadeirio Pwyllgor Cynghori’r Cyngor yng Nghymru’r sefydliad. Y mae’r Athro Stephens hefyd yn aelod o Fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru ac o Arts and Business Wales ac Arts and Business UK. Y mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol o Fwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Rheolaeth Gorfforaethol ar gyfer y prif Fwrdd.

Cyflwynwyd Gwobr Cyfrwng i’r derbynnydd hynod haeddiannol hon gan Gareth Price, cyn Gyfarwyddwr Sefydliad Thomson a chyfaill mynwesol Elan Closs Stephens, yn ystod cinio yng Ngwesty Park Plaza, Caerdydd.