Gwobr Cyfrwng 2008: Owen Edwards
Gwobr Cyfrwng 2008
Cyflwynwyd Gwobr Cyfrwng 2008 i Owen Edwards, Cyfarwyddwr cyntaf Sianel Pedwar Cymru. Fe’i hanrhydeddwyd am ei gyfraniad aruthrol i ddatblygiad y cyfryngau Cymraeg yng Nghymru.
Gwelwyd cyflwyno’r wobr i Owen Edwards mewn seremoni emosiynol gan ei gyfaill Alwyn Roberts, cyn Gadeirydd Cyngor Darlledu Cymru’r BBC ac un o aelodau cyntaf Awdurdod S4C. Cynhaliwyd y seremoni yn awditoriwm y DRWM yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda’r dathliadau’n parhau yng Nghinio’r Gynhadledd yn Ystafell y Cyngor.
Dechreuodd Owen Edwards ar ei yrfa yn y cyfryngau fel cyflwynydd ar y rhaglen Gymraeg Dewch i Mewn a gynhyrchwyd gan un o gwmnïau ITV Granada. Wedi tair blynedd yn gweithio i’r cwmni o Fanceinion, daeth galwad yn 1961 iddo deithio i Gaerdydd i gyflwyno rhaglen newyddion Gymraeg ddyddiol y BBC, Heddiw. Ac yna y bu, yn cyflwyno newyddion y dydd ac yn sgwrsio â phobl Cymru’n ddyddiol hyd 1966.
Wedi ei gyfnod o flaen y camera aeth Owen Edwards ati i ddylanwadu ar ddatblygiad y cyfryngau Cymraeg y tu ôl i’r llenni, yn gyntaf fel Trefnydd Rhaglenni ac yna fel Pennaeth Rhaglenni yn y BBC. Fe’i penodwyd yn Rheolwr BBC Cymru yn 1974 ac o dan ei arweinyddiaeth gwelwyd ymestyn gwasanaethau Cymraeg a Saesneg y darlledwr trwy lansio Radio Cymru a Radio Wales.
Yna yn 1981, wedi tro-pedol cofiadwy’r Ceidwadwyr, gwelwyd dechrau ar y gwaith o sefydlu sianel newydd Gymraeg, ac, yn ôl Alwyn Roberts, Owen Edwards oedd y dewis naturiol i’r swydd. Rhoddodd ei benodiad gredinedd angenrheidiol i’r sianel newydd ac roedd ei ddawn gynhenid o alluogi eraill i lwyddo yn allweddol i lewyrch y sianel. Bu Owen Edwards yn bennaeth ar y sianel hyd ei ymddeoliad yn 1989.
Yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd ac yn ?yr i’r hanesydd, awdur a’r cyhoeddwr O.M. Edwards - rhai o unigolion amlycaf Cymru - roedd Alwyn Roberts yn awyddus i bwysleisio mai cyfraniad unigolyn a gydnabyddir gan y wobr hon ac nid teulu. Dywedodd i’r tri g?r gyfrannu yn eu ffyrdd eu hunain i ddatblygiad y Gymraeg ond mai cyfraniad a champ unigryw Owen Edwards oedd iddo droi cyfrwng a ystyrid yn fygythiad i fodolaeth yr iaith Gymraeg yn foddion i’w chyfoethogi a’i dyfnhau.

