Gwobr Cyfrwng 2007 : Peter Stead
Gwobr Cyfrwng 2007
Derbynnydd Gwobr Cyfrwng 2007 yw’r Athro Peter Stead, cyn-ddarlithydd Hanes o Brifysgol Abertawe ac awdur, darlledwr a hanesydd diwylliannol.
Anrhydeddwyd Yr Athro Stead â’r wobr unigryw hon i gydnabod ei gyfraniad eithriadol ym maes hyrwyddo’r cyfryngau yng Nghymru ac ar lwyfan rhyngwladol.
Cyflwynwyd y wobr i’r Athro Stead gan ei gyfaill yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Deiliad Cadair Hanes Diwylliannol Raymond Williams Prifysgol Abertawe. Cynhaliwyd y dathliadau yn Nhŷ Bwyta’r Forforwyn yn y Mwmbwls gyda’r cinio yn glo i gynhadledd Cyfrwng 2007, Prifysgol Abertawe.
Y mae’r Athro Stead wedi, ac yn parhau, i gyfrannu’n helaeth i’r gwaith o hybu cyfryngau Cymru mewn amryw ffyrdd. Mae’n awdur toreithiog ar hanes y sinema a’r theatr ac ymysg ei gyhoeddiadau niferus y mae astudiaethau ar waith y dramodydd a’r sgriptiwr Dennis Potter a’r actor Richard Burton. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Acting Wales: Stars of Stage and Screen (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002).
Y mae hefyd yn darlledu’n gyson ar ran y cyfryngau ar faterion diwylliannol a gwleidyddol. Roedd yn aelod o Banel y Llywodraeth a ddewisodd Lerpwl yn Brifddinas Diwylliant Ewrop 2008 a bu’n gwasanaethu ar fwrdd Sgrîn Cymru Wales, asiantaeth gyfryngau Cymru gynt. Mae’n aelod gweithgar o’r Sefydliad Materion Cymreig ac yn Gadeirydd Gwobr Lenyddol Dylan Thomas.
Meddai’r Athro Dai Smith wrth gyflwyno’r wobr, "‘Peter has always refused to be confined by artificial boundaries and so, as a university teacher and scholar or critic and broadcaster, he ignores them in favour of the pleasures of culture, high and low and sporting, as a whole way of life. Above all, he has seen South Wales as a local crucible of the global power of acting in the films and theatre he relishes and celebrates. For me, it was a great pleasure to present one of my oldest friends with Cyfrwng's Annual Award for 2007."

