Gwobr Cyfrwng 2006 : Gwyn Thomas
Derbynnydd Gwobr Cyfrwng 2006 yw Yr Athro Emeritws Gwyn Thomas, Bangor a hynny ar achlysur dathlu ei benblwydd yn 70 oed eleni. Y mae Gwyn Thomas yn fardd, llenor ac academydd adnabyddus sydd wedi cyfrannu’n helaeth hefyd i fyd y cyfryngau a’r celfyddydau gweledol.
Y mae cyfraniad pwysig Gwyn Thomas, sydd yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, i’r cyfryngau i’w weld yn glir mewn sawl maes dros y degawdau. Ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am addasu chwedlau’r Mabinogi ar gyfer ffilm animeiddiedig a ryddhawyd gan S4C yn 2002 gyda Ioan Gruffudd a Matthew Rhys. Bu hefyd yn weithgar gyda’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg gan gyd-weithio â’r cyfarwyddwr William Aaron ar y ffilm arswyd Gymraeg gyntaf yn 1981 sef O’r Ddaear Hen. Arbrofodd hefyd â cherddi ar gyfer y teledu a’r radio a chyhoeddi cyfrol ohonynt ym 1976 dan y teitl Cadwynau yn y Meddwl. Ac o safbwynt damcaniaethu, ef sydd wedi braenaru’r tir yng Nghymru wrth drafod llunyddiaeth – y berthynas rhwng y llun a’r gair ym myd ffilm, teledu a’r llwyfan.
Dr. William R. Lewis, dramodydd a sgriptiwr teledu sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a gyflwynodd y wobr i Gwyn Thomas yn dilyn darlith ar ei waith yn ystod Cynhadledd Cyfrwng 2006. Canolbwyntio ar ddamcaniaethu Gwyn Thomas ynglŷn â natur ac arwyddocad y cyfryngau o safbwynt ffyniant a pharhad y Gymraeg a’i diwylliant a wnaeth Dr Lewis yn ei ddarlith.
Cafwyd cinio i ddathlu yn nhŷ bwyta Y Winllan, Aberystwyth.


