Gwobr Siân Phillips 2005 : Dave Berry
Derbynnydd Gwobr Siân Phillips 2005 yw Dave Berry, awdur y beibl ar ffilm Cymru, Wales and Cinema - The First Hundred Years a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1994. Fe’i ganed yn Farnworth, Swydd Gaerhirfyn, a symudodd i Gymru ym 1974 gan weithio fel beirniad ffilm i’r papur South Wales Echo rhwng 1978 a 1994. Sgriptiodd a dyfeisiodd y gyfres deledu ar hanes ffilm Cymru The Dream That Kicks ar gyfer HTV ym 1986 cyn ymuno ag Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru fel Swyddog Ymchwil. Caiff Dave Berry ei ystyried fel un o brif gefnogwyr y ffilm yng Nghymru a chaiff ei gydnabod fel un o’r rhai a oedd yn allweddol yn y gwaith o ddarganfod ac adfer y ffilm golledig o 1918, The Life Story of David Lloyd George. Y mae’n Ddarlithydd Cyswllt ar Hanes Ffilm Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ac yn gyd-olygydd gyda’r Athro Simon Horrocks ar David Lloyd George The Movie Mystery.
Cyflwynwyd y wobr i Dave Berry gan Yr Athro Peter Stead, darlledwr, hanesydd ac Athro Gwadd ym Mhrifysgol Morgannwg.

