Gwobr Siân Phillips 2004 : Emyr Humphreys
Derbynnydd Gwobr Siân Phillips 2004 oedd Emyr Humphreys, y nofelydd, y bardd a’r dramodydd nodedig a fagwyd yn Nhrelawnyd ac sy’n byw bellach yn Ynys Môn. Fe’i hystyrir yn un o brif ffigurau llenyddol y Gymru fodern. Ond y mae Emyr Humphreys wedi cyfrannu’n helaeth i fyd y cyfryngau torfol yn ogystal. Cyn troi ei law at ddarlithio ar ddrama a’r cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ym 1965, yr oedd yn gynhyrchydd drama BBC Cymru ac yn gyfrifol am gynhyrchu, yn y Gymraeg a’r Saesneg, rai o weithiau Saunders Lewis a John Gwilym Jones. Wedi cyfnod yn ystod y 1970au yn gweithio i HTV, lle y cynhyrchodd amryw raglenni dogfen ar gyfer y teledu. Bu’n ymgyrchwr brwd dros sianel deledu Gymraeg i Gymru a chydweithiodd am y tro cyntaf â’i fab, Siôn, ar ffilm ar gyfer S4C, sef Y Gosb ym 1983.
Cyflwynwyd y wobr i Emyr Humphreys gan Yr Athro R. Merfyn Jones, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Bangor.

