13-14 Mai 2010
Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin
GALWAD AM BAPURAU
Thema: 'Lleisiau'
Mae Cynhadledd Cyfrwng yn gyfle i academyddion, myfyrwyr ac ymarferwyr cyfryngol drafod pynciau allweddol sydd yn wynebu’r cyfryngau yng Nghymru. Croesawir Cyfrwng 2010 i Goleg Prifysgol y Drindod yng Nghaerfyrddin ac estynnir gwahoddiad am bapurau ar gyfer y gynhadledd hon ar y thema 'Lleisiau'. Yn ôl ein harfer, y mae Cyfrwng yn rhoi llwyfan i’r meysydd canlynol: Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau Newydd a Theatr a Pherfformio. Ar wahân i’r papurau a gyflwynir gan unigolion cynhelir darlithiau cyweirnod a thrafodaethau bord gron – cyhoeddir enwau’r prif siaradwyr yn fuan.
Croesewir awgrymiadau am bapurau sy'n trafod unrhyw agwedd ar thema'r gynhadledd, boed yn drafodaethau hanesyddol, theoretig, dadansoddol, ymarferol neu’n astudiaeth o bolisïau. Gellir ymdrin â'r thema mewn sawl modd gwahanol, er enghraifft lleisiau newydd, y llais unigol, y lleisiau na chlywir mohonynt, lleisiau amgen, technoleg a'r llais, llais a phlwraliaeth, neu leisiau’r gorffennol. Gellir hefyd gyfuno meysydd gan gynnwys gwleidyddiaeth, hanes, economi, ieithoedd, cerddoriaeth ac yn y blaen. Yn ogystal â phapurau yn adlewyrchu ar brif thema'r gynhadledd, croesawir awgrymiadau ar gyfer sesiynau atodol yn edrych yn benodol ar rôl cynhyrchu cyfryngol ym maes ysgolheictod. Gallai'r sesiynau hyn fod ar ffurf papur academaidd, trafodaeth bord gron, gweithdy neu ddangosiad o waith creadigol. Croesewir hefyd bapurau fydd yn cynnig cymariaethau rhwng Cymru a chenhedloedd eraill, a, thra bydd pwyslais y gynhadledd ar Gymru, ni fydd yn diystyru’r tirlun ehangach o fewn Y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Ni ddylai’r papurau fod mwy na 20 munud o hyd. Dylid anfon crynodeb sydd rhwng 200 – 300 o eiriau i’r cyfeiriad isod erbyn:
31 Ionawr 2010
Fe gysylltir â’r ymgeiswyr llwyddiannus cyn diwedd Chwefror 2010.
Dylid anfon y ceisiadau at:
Non Vaughan Williams
Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau
Coleg Prifysgol Y Drindod
Caerfyrddin
SA31 3EP
01267 67 66 41




