English
Cyfrwng 2011

Cynhadledd Ryngwladol ar y Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach

Prifysgol Morgannwg, yr ATRiuM, Caerdydd

16-17 Mehefin 2011

I'w hagor gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru


Safle gwe'r gynhadledd

Rhaglen y gynhadledd (ffurf .pdf)
Diweddarwyd y rhaglen: 5ed Mehefin
Gall mân newidiadau ddigwydd ar y funud olaf

Ffurflen gofrestru (ffurf .doc) (ffurf .pdf)
Dyddiad cau cofrestru wedi ei ymestyn i Mai 27ain 2011


Cynhadledd Cyfrwng yw un gynadleddau mwyaf blaenllaw Ewrop ar gyfer astudiaethau yn ymwneud â theledu, cyfryngau newydd, ffilm, radio, newyddiaduraeth, celfyddyd weledol ac astudiaethau theatr a pherfformio.

Nod Cyfrwng yw trafod rhai o'r materion allweddol sydd heddiw'n wynebu’r cyfryngau yng Nghymru ac mewn cenhedloedd bychan eraill. Mae aelodau’r gynhadledd yn cynnwys academyddion, myfyrwyr ac aelodau o’r diwydiant.

Ffioedd cofrestru'r gynhadledd (yn cynnwys cinio, lluniaeth ysgafn a chopi o gyfnodolyn Cyfrwng):

Hefyd, gwahoddir aelodau'r gynhadledd i fynychu Cinio Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Cyfrwng yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ar Ddydd Iau 16 Mehefin, am £35 y pen.

Cynhelir cynhadledd eleni gan y Ganolfan Astudio Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, ar gampws ATRiuM Prifysgol Morgannwg, yng nghanol Caerdydd. Bydd y gynhadledd yn cymryd perspectif rhyngwladol ar y cyfryngau a diwylliant mewn cenhedloedd bach, ac yn cynnwys siaradwyr o Seland Newydd, Catalonia, Gwlad y Basg, Denmarc, Gwlad yr Iâ, a Gwlad Belg, yn ogystal â Chymru, yr Alban ac Iwerddon.

Mae’r prif siaradwyr yn cynnwys:

Hefyd, cynhelir trafodaeth arbenning ar ddyfodol S4C a chyflwyniad ar 'Bentref Drama' newydd y BBC ym Mae Caerdydd.

Gellir lawrlwytho ffurflen gofrestru neu alw cyd-gysylltydd y gynhadledd er mwyn archebu lle ar: +44 (0) 1443 482002.

Mae gwybodaeth am lety lleol ar gael ar wefan Cardiff and Co, cardiffandco.com