13-14 Mai 2010
Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin
Thema: 'Lleisiau'
Gwelifiad byw (ffurf .mms)
Mai 13eg: 10:30am-5:30pm; Mai 14eg: 10am-5pm
Ffurflen gofrestru (ffurf .doc), (ffurf .pdf)
Rhaglen y gynhadledd (ffurf .pdf)
Gall y rhaglen newid ar y funud olaf cyn y gynhadledd
Gwybodaeth am lety (ffurf .pdf)
Mapiau: Lleoliad y brifysgol (.pdf), Campws y brifysgol (.pdf)
Yn ystod y gynhadledd ddeuddydd bydd cyfres o academyddion ac ymarferwyr yn trafod agweddau amrywiol ar thema Lleisiau. Bydd cyfle i glywed paneli trafod, i wrando ar bapurau academaidd, rhannu profiadau ymarferwyr a gweld perfformwyr wrth eu gwaith.
Mae dewis y thema Lleisiau yn rhoi cyfle i ni gyffwrdd ag agweddau amrywiol o'r celfyddydau a'r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Bellach daeth defnyddio technolegau newydd yn rhan o waith bob dydd y mwyafrif ohonom, ac yn rhan allweddol o rwydweithio cymdeithasol. Cawn gyfle i ystyried sut mae'r technolegau yma yn rhoi cyfle i leisiau newydd fynegi eu hunain. Fe ddaeth hi'n arfer hefyd i ddarllen papurau newydd ar-lein, ond a yw gofynion y cyfrwng hwnnw yn llesteirio newyddiaduraeth? Cawn gyfle i ystyried hynny gyda sylwebyddion ac ymarferwyr o'r maes. Daw cyfle yn ogystal i ystyried sut mae'r llais unigol yn medru mynegi ei hun mewn marchnad fyd-eang, a sut mae prosiectau penodol yn galluogi lleisiau cymunedau amrywiol yng Nghymru i fynegi eu hunain. Ystyriwn ym mha fodd y gellir annog rhai, nad yw'n hawdd iddynt fynegi eu hunain, i leisio eu dyheadau. Bydd cyfle i glywed barn unigolion allweddol ar lais celf ar y cyfryngau torfol, a rhannu profiad perfformwyr o fynegi eu llais. Bydd trafodaeth ar fudd cyfnodau profiad gwaith yn gyfle i addysgwyr ac ymarferwyr ddod at ei gilydd i leisio eu anghenion. A dyna yw nod Cyfrwng ei hun - dwyn llais byd academi a llais diwydiant at ei gilydd.
Ymysg y siaradwyr fydd:
Frances Davies, CambriaElin Rhys, Telesgôp
Iwan Bala, Coleg Prifysgol Y Drindod, Caerfyrddin
Marc Webber, ymgynghorydd cyfryngol a chyn-olygydd The Sun Online
Dafydd Iwan
Eddie Ladd
Dr Virendra Mistry, Prifysgol Morgannwg
Bethan Marlow
Rhodri ap Dyfrig, Prifysgol Aberystwyth
Owain Schiavone, Golwg 360
Stephen Haggard, Tinopolis
Yn ystod y flwyddyn collwyd rhai lleisiau oedd yn allweddol i ni fel cenedl ac yn benodol i aelodau Cyfrwng. Yn y gynhadledd cawn gyfle i ddathlu cyfraniad Angharad Jones, cyn-gomisiynydd drama S4C trwy gyfrwng trafodaeth ar Lais yr Awdur. Collwyd hefyd y llais ar hanes ffilm yng Nghymru, Dave Berry a chawn gyfle i ddathlu ei gyfraniad yntau.
Yng nghinio'r gynhadledd ar nos Iau 13 Mai 2010, cyflwynir tlws i enillydd Gwobr Cyfrwng 2010, a chyhoeddir enillydd Gwobr James Thomas 2010.




