CYNHADLEDD CYFRWNG 2009
Rhaglen y Gynhadledd [PDF]
Cynhaliwyd Cynhadledd Cyfrwng 2009 yng Nghanolfan Ddarlledu BBC Cymru Wales, Llandaf ar 7 ac 8 Mai 2009. Thema'r gynhadledd oedd 'Cynulleidfaoedd' a cheid amrywiaeth o siaradwyr, papurau a phaneli a fu'n archwilio ystod o agweddau ar gynulleidfaoedd cyfryngau yng Nghymru. Denodd y gynhadledd ddeuddydd hon dros 120 o gynadleddwyr o fyd addysg a'r diwydiant.
Agorwyd y gynhadledd gyda chroeso gan John Hefin, Cadeirydd Cyfrwng, a Keith Jones, Pennaeth Rhaglenni (Cymraeg) a rhyngweithiol, BBC Cymru Wales. I ddilyn cafwyd amrywiaeth o sesiynau a drefnwyd gyda'r nod o asesu ac archwilio rhai o'r materion sy'n wynebu academyddion, ymarferwyr a'r diwydiant cyfryngau wrth i anghenion cynulleidfaoedd newid. Daeth gweithgareddau'r dydd i uchafbwynt gyda darlith gyweirnod gan Weinidog Treftadaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Alun Ffred Jones, AC.
Ymhlith siaradwyr eraill y diwrnod agoriadol ceid Judith Isherwood, Prif Weithredydd Canolfan Mileniwm Cymru; Elisabeth Mahoney, The Guardian a Phrifysgol Abertawe; Mandy Rose, BBC Cymru Wales; Carolyn Hitt, Presentable; Simon Popple, Prifysgol Leeds; Heike Roms, Prifysgol Aberystwyth; Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru; John McGrath, National Theatre Wales; Tony Jordan, Red Planet a Nia Ceidiog, Cynyrchiadau Ceidiog.
Cynhaliwyd trafodaethau ar faterion yn ymwneud ag archifo deunydd clyweledol a phwysigrwydd tynnu academyddion ac aelodau o'r diwydiant ynghyd er mwyn diogelu casgliadau a ffynonellau gwerthfawr. Bu panel arall yn canolbwyntio ar gyfryngau ar gyfer plant a phlant fel aelodau o'r gynulleidfa, ynghyd â ffyrdd y gall plant greu eu cynnwys cyfryngol eu hunain. Gwelodd y drafodaeth fywiog hon gyfraniadau gan aelodau o gwmnïau proffesiynol megis First Light Movies, Headliners, Film 15, WISE KIDS, a Valleys Kids, ynghyd â chynrychiolwyr o BBC Cymru Wales, S4C, Prifysgol Caerdydd, Clwyd Theatr Cymru ac Arad Goch.
Mewn sesiwn ddifyr arall cafwyd trafod ar bwysigrwydd y farchnad gyfryngau rhyngwladol i gyfryngau Cymru, yn arbennig byd teledu, a'r sialensau sy'n wynebu Cymru wrth allforio deunydd cyfryngol. Bu'r panel trafod ar Gynulleidfaoedd Theatr a Pherfformio yn llwyddiant hefyd, gyda phanelwyr o gwmnïau theatr ac academia yn ystyried yr amrywiol heriau sydd angen eu hwynebu a'u goresgyn.
Daeth diwrnod cyntaf y gynhadledd i ben gyda Chinio Cynhadledd Cyfrwng lle y cyflwynwyd Gwobr Cyfrwng 2009 i'r Athro Elan Closs Stephens, CBE i gydnabod ei chyfraniad aruthrol wrth hyrwyddo maes y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Y mae cyfraniad yr Athro Stephens i'r maes hwn yng nghyd-destun byd addysg uwch a'r diwydiant yn ddi-ail a chafodd y cynadleddwyr gryn flas ar y cyfle i gyfleu eu cydnabyddiaeth o'i champ a'u diolch iddi. Rhoes y cinio, a gynhaliwyd yng Ngwesty Park Plaza, Caerdydd, gyfle hefyd i'r cynadleddwyr drin a thrafod nifer o'r materion a godwyd yn ystod y diwrnod mewn amgylchedd mwy anffurfiol.
Agorwyd ail ddiwrnod y gynhadledd gyda darlith gyweirnod gan Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales a derfynodd gyda rhagolwg ar gyfres newydd Torchwood: Children of Earth, clip a fu'n fodd o danlinellu ei sylwadau am uchelgais a sgôp allbwn teledu BBC Cymru Wales. Bu panel dilynol ar ymchwilio i a mesur cynulleidfaoedd yn yr oes amlblatfform yn ystyried dylanwad technolegau cyfryngau newydd ar gynulleidfaoedd a sut y mae hyn wedi newid y modd y maent yn dethol ac ymwneud â thestunau cyfryngol. Yn dilyn cinio, cafwyd trafodaeth fywiog a dadleuol ar Reoleiddio ac Atebolrwydd, gyda Claire Fox o'r Institute of Ideas yn dadlau yn erbyn diffiniad cyfredol Ofcom o 'dramgwyddo' a'r syniad o gynulleidfa ddychmygol wedi'i thramgwyddo ac sydd angen ei hamddiffyn. Cafwyd ymateb yr un mor danbaid gan Hywel William ar ran Ofcom a sbardunodd drafodaeth hynod ddifyr gyda chyfraniadau gan yr academyddion uchel eu parch Sylvia Harvey a Dave Rushton.
Bu panel trafod olaf y gynhadledd yr un mor fywiog gyda'r ffocws ar 'Ddyfodol Newyddion yng Nghymru'. Cafwyd cyfraniadau gan gynrychiolwyr o S4C, ITV Wales, BBC Cymru Wales, NUJ a Media Wales ynghyd â'r Aelod Cynulliad Alun Davies. Adlewyrchodd y sesiwn ddymuniad y gynhadledd i wneud plwraliaeth newyddion yn rhan allweddol o'r trafodaethau, a chafwyd trafod egnïol ar sut y mae gweithredu o fewn amgylchedd economaidd anodd a diwydiant sydd yn cyfyngu ar yr adnoddau sydd ar gael i ddarlledu newyddion.
Daeth y gynhadledd i ben gyda sesiwn a roes y cyfle i'r cynadleddwyr ymateb i'r amrywiol faterion a godwyd yn ystod y ddeuddydd ac i holi cwestiynau a gwneud sylwadau. Bu'r cyfle i'r gynulleidfa 'daro nôl', a gadeiriwyd mor wrol gan John Geraint o Green Bay Media yn ei ddull ffraeth a dihafal, yn ddiweddglo teilwng i gynhadledd a fynnodd osod cynulleidfaoedd Cymru wrth galon y trafodaethau ac a lwyddodd, unwaith eto, i dynnu ynghyd leisiau ysgolheigaidd ac aelodau proffesiynol o'r diwydiant i drafod y materion hanfodol hyn.
Hoffai Pwyllgor Rheoli Cyfrwng ddiolch i holl noddwyr y gynhadledd am eu cefnogaeth ac yn arbennig i BBC Cymru Wales am gynnal y digwyddiad. Hoffem hefyd ddiolch i'r cynadleddwyr am fynychu a chyfrannu i gynhadledd gynhyrchiol a bywiog.
Cynhelir cynhadledd nesaf Cyfrwng yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin rhwng 5-7 Mai 2010.







