English

Cynhadledd Cyfrwng 2008

Rhaglen y Gynhadledd [PDF]

Trefnwyd Cynhadledd Cyfrwng 2008 gan Brifysgol Aberystwyth a'i chynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 1-2 Mai 2008. Thema’r gynhadledd oedd 'Cydgyfeiriant: Llwyfannau Newydd', ac fe grisialodd y thema hon sylfaen deallusol Cyfrwng, sef dod ag academyddion, gwleidyddion, llunwyr polisi a phobl broffesiynol ynghyd o feysydd radio, teledu, ffilm, cyfryngau newydd, newyddiaduraeth, theatr a pherfformio.

Agorwyd y gynhadledd gyda darlith gyweirnod gan Ceri Sherlock, Gweithredwr Comisiynu BBC Cymru ar gyfer y Celfyddydau, a awgrymodd bod 'Gormod o bobl yn poeni am y dyfodol a dim digon yn ei ddyfeisio'. Ymhlith uchafbwyntiau eraill y gynhadledd yr oedd panel trafod ar yr addasiad sgrîn o nofel arobryn Caryl Lewis, Martha, Jac a Sianco, a sgwrs rhwng yr Athro Elan Closs Stephens ac Euryn Ogwen Williams am gyflymdra newidiadau o fewn y diwydiant dros y degawd diwethaf.

Daeth gweithgareddau'r diwrnod cyntaf i ben wrth i Alwyn Roberts, cyn Gadeirydd Cyngor Darlledu Cymru'r BBC ac un o aelodau cyntaf Awdurdod S4C, gyflwyno Gwobr Cyfrwng 2008 i Owen Edwards, Cyfarwyddwr cyntaf Sianel Pedwar Cymru, mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniad aruthrol i ddatblygiad y cyfryngau Cymraeg yng Nghymru. Yn dilyn y seremoni cynhaliwyd Cinio i ddathlu yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cynhelir cynhadledd nesaf Cyfrwng yng Nghanolfan Ddarlledu BBC Cymru Wales, Llandaf rhwng 7-8 Mai 2009.