CYNHADLEDD CYFRWNG 2007
Croesawyd Cynhadledd Cyfrwng 2007 gan Brifysgol Abertawe a hynny ar benwythnos y 13 a 14 Ebrill 2007. Dewiswyd thema amserol, a hithau’n ddegawd ers i Gymru bleidleisio o blaid datganoli, sef ‘Datganoli a Datblygiad y Cyfryngau yng Nghymru a’r Alban’. Croesawyd dros gant o gynadleddwyr i Adeilad James Callaghan gydag amryw wedi teithio o’r Alban gyda’r bwriad o gymharu profiadau a chasgliadau y ddwy genedl.
Prif siaradwr gwadd y gynhadledd oedd y newyddiadurwr ac angor rhaglen Newyddion y BBC The Ten O'Clock News, Huw Edwards. Cafwyd sgwrs rhwng y darlledwr o Langennech â Rhys Evans, dirprwy bennaeth Newyddion BBC Cymru Wales, gyda’r sylw’n cael ei roi ar y newidiadau a welwyd dros y ddegawd ddiwethaf yn y gwaith o ddarlledu newyddion gwleidyddol sy’n ymwneud â Chymru. Agorwyd y drafodaeth i’r cyhoedd a rhoddwyd yr holl elw a wnaed o’r digwyddiad i elusen Shelter Cymru.
Nod y gynhadledd oedd rhoi sylw i bob agwedd o’r cyfryngau a’r datblygiadau a welwyd yn y meysydd hyn ers datganoli a chynhaliwyd sawl trafodaeth banel yn ystod y ddeuddydd. Agorwyd y gynhadledd gyda chyflwyniadau gan John Geraint, Green Bay; Lowri Gwilym, S4C; Clare Hudson, BBC Cymru Wales ac Elis Owen, ITV Wales dan gadeiryddiaeth yr Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd. Bu natur agored ac adeiladol y drafodaeth ddilynol yn batrwm i’r trafodaethau a ddilynodd ar y prynhawn dydd Gwener; trafodaethau ar ddramâu ar y sgrîn ers datganoli gyda rhai o ddoniau sgriptio a chynhyrchu pennaf Cymru, a’r cwestiynau sy’n codi wrth ddiffinio Theatr Genedlaethol ar ôl datganoli yng nghwmni rhai o brif sylwebyddion Cymru yn y maes dan arweiniad Yr Athro Hazel Walford Davies.
Bu’r dydd Sadwrn yn ddiwrnod llawn arall o holi a stilio, gyda radio dan y chwyddwydr ben bore ac yn arbennig y datblygiadau rhyngweithiol a welwyd yn y cyfrwng a’r pryderon a geir am faint yr amrywiaeth o fewn gwasanaethau gorsafoedd radio masnachol.
Yn ystod y dydd, cafwyd amrywiaeth o bapurau gan academyddion ar faterion mor amrywiol â’r wasg ers datganoli i lythrennedd y cyfryngau, ac o bolisïau clyweled i’r modd y mae technoleg newydd yn esgor ar ffyrdd newydd o greu cymunedau Cymreig a phob un papur yn ysgogi trafodaeth frwd. At hynny, cafwyd sesiwn benodol ar gyfer myfyrwyr ôl-radd gyda’r bwriad o gynnig cyngor; cafwyd cyflwyniad gan Sue Jeffries o Skillset Cymru am bosibiliadau gyrfaol yn y diwydiant i raddedigion tra rhoddodd Yr Athro Rob Stone, Adran y Cyfryngau, Prifysgol Abertawe, gyflwyniad ar opsiynau’r rhai sydd am fentro i’r byd academaidd ac sydd am ddechrau cyhoeddi ar agwedd o’r cyfryngau.
Bu hefyd dwy drafodaeth ar berthynas y Cynulliad â’r cyfryngau. Dan gadeiryddiaeth yr Athro Tom O’Malley, Prifysgol Aberystwyth, cafwyd trafodaeth hynod fywiog gyda Leighton Andrews, AC Llafur; Alun Cairns, AC Y Blaid Geidwadol; Jenny Randerson, AC Democratiaid Rhyddfrydol; Dafydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad; a Tim Hartley, S4C ar y modd, yn eu barn hwy, y caiff gwaith y Cynulliad ei gyflwyno i’r cyhoedd gan y cyfryngau. Wedi cinio tro’r newyddiadurwyr oedd bwrw’u bol am y dasg o ohebu ar waith y Cynulliad gyda’r Athro Kevin Williams, Prifysgol Abertawe, â’r dasg anodd o gadw trefn ar Spencer Feeney, South Wales Evening Post; Patrick Hannan, BBC Wales; Mark O'Callaghan, BBC Wales; Aled Price, Y Byd a Martin Shipton, Western Mail, gan arwain y trafod ar y cwestiwn, a oes methiant yn y cyfathrebu?
I gloi’r gynhadledd cynhaliwyd Noson Wobrwyo Cyfrwng 2007 gyda’r Athro Dai Smith, Prifysgol Abertawe, yn cyflwyno Gwobr Cyfrwng 2007 i’r Athro Peter Stead i gydnabod ei gyfraniad helaeth i’r gwaith o hyrwyddo cyfryngau torfol Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Cynhaliwyd cinio’r gynhadledd yn Nhŷ Bwyta’r Forforwyn, Y Mwmbwls.
Dymuna’r trefnwyr ddiolch i holl noddwyr y gynhadledd am eu cefnogaeth ac i’r cynadleddwyr am fynychu a sicrhau bod y trafodaethau’n rhai buddiol a gwerthfawr. Bu Cyfrwng 2007 yn gynhadledd a gefnogodd Fasnach Deg hyd eithaf ei gallu.
Cynhelir cynhadledd Cyfrwng 2008 ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 1-2 Mai 2008.




