English

CYNHADLEDD CYFRWNG 2006

Cynhaliwyd trydedd gynhadledd Cyfrwng yn y Drwm, awditoriwm newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ar 7 Ebrill 2006. Mynychwyd y gynhadledd gan academyddion a myfyrwyr, aelodau o’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru ac aelodau o’r cyhoedd gyda’r bwriad o drin a thrafod materion allweddol sy’n wynebu’r cyfryngau yng Nghymru heddiw.

Prif thema’r gynhadledd oedd dyfodol S4C ym myd darlledu. Yn dilyn croeso gan John Hefin, Cadeirydd Cyfrwng ac Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cafwyd darlith gan Dr James Thomas a’r Athro Justin Lewis, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Caerdydd dan y teitl ‘Troi cefn ar argyfwng canol oed’?: Gorffennol, presennol a dyfodol cynulleidfaoedd darlledu cyfrwng Cymraeg’. Cyflwynwyd amryw o destunau trafod difyr gan y ddau ac y mae ffrwyth eu hymchwil wedi ei gyhoeddi yn nhrydydd rhifyn y cyfnodolyn, Cyfrwng 3 (2006).

Cafwyd darlith yna gan Yr Athro Elan Closs Stephens a hithau newydd orffen ei chyfnod fel Cadeirydd S4C. Cynigiodd ei phapur, ‘Croesgerrynt Digidol: Bwrw golwg yn ôl ar gadeirio S4C 1998–2006’ olygwedd newydd ar y sianel – y llwyddiannau a’r methiannau o geisio gweithredu fel sianel cyfrwng Cymraeg mewn byd gynyddol ddigidol.

Yn ogystal â’r darlithoedd, dathlwyd cyhoeddi dau gyhoeddiad newydd, sef Cyfrwng 3 (GPC, 2006) a Records of Early Drama: Wales (Gwasg Prifysgol Toronto), gorchest anhygoel yr Athro David Neal Klausner.

I gloi’r gynhadledd cynhaliwyd Noson Wobrwyo Cyfrwng 2006 gyda Dr William R. Lewis, Prifysgol Cymru Bangor yn traddodi darlith ar ‘Gyfryngau Gwyn Thomas’ cyn gwobrwyo’r Athro Emeritws Gwyn Thomas â Gwobr Cyfrwng 2006 am ei gyfraniad pwysig i fyd y cyfryngau cyfrwng Cymraeg. Cynhaliwyd cinio nodweddiadol hwyliog y gynhadledd yn Le Vignoble, Aberystwyth.

Cynhelir cynhadledd Cyfrwng 2007 ym Mhrifysgol Cymru Abertawe ar 13 a 14 Ebrill 2007.

logos noddwyr