Cynhadledd Cyfrwng 2005
Cynhaliwyd ail gynhadledd Cyfrwng ym Mhrifysgol Morgannwg rhwng 22–24 Ebrill 2005.
Ymhlith y siaradwyr gwadd yr oedd penaethiaid prif ddarlledwyr Cymru. Bu Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru yn trafod cyfleon y siartr yng Nghymru, oblygiadau'r newidiadau ar y BBC a'u perthynas ag S4C. Daeth Yr Athro Elan Closs Stephens, Cadeirydd S4C i ddadansoddi a thrafod darlledu gwasanaeth cyhoeddus a rheoleiddio tra bu Roger Lewis, Rheolwr ITV Wales yn bwrw golwg dros ysgwydd ar ei dri mis cyntaf yn y swydd.
Mynychwyd y gynhadledd gan academyddion, myfyrwyr ac aelodau o’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru gyda’r bwriad o drin a thrafod materion allweddol sy’n wynebu’r cyfryngau yng Nghymru heddiw.
Ymhlith y sesiynau eraill a gynhaliwyd yr oedd trafodaeth ar ddatblygiad darlledu chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg yng nghwmni Huw Llywelyn Davies, BBC Cymru, Gareth Edwards, Comisiynydd Chwaraeon S4C, a Lowri Roberts, BBC Cymru dan gadeiryddiaeth Yr Athro Gareth Williams. Cafwyd hefyd drafodaeth ford gron dan gadeiryddiaeth Elin Haf Gruffydd Jones (Mercator) ar newyddiaduraeth ieithoedd lleiafrifol yng nghwmni Ciaran Ó Pronntaigh (golygydd Lá), Ned Thomas (Y Byd), Dylan Iorwerth (Golwg) a Dr Grahame Davies (BBC Cymru'r Byd).
I gloi’r gynhadledd cafwyd sgwrs gan yr awdur a’r actor Boyd Clack, lle bu'n nodi ei obeithion ar gyfer comedïau sefyllfa yng Nghymru. Yn ei farn ef, gallai cyfresi megis High Hopes a Satellite City fod yn llwyddiannus dros y ffin petai darlledwyr mawr Lloegr yn barod i roi cyfle iddynt. Teimla bod digrifwch cynhenid yn perthyn i'r Cymry ond bod gormod o ddrwgdybiaeth i'w gael tuag atom gan ddarlledwyr y tu draw i'r ffin.
Ar y nos Wener adunwyd cast, criw a chyfarwyddwr y glasur Grand Slam yn sinema'r UGC yng Nghaerdydd, tra ar y nos Sadwrn cynhaliwyd cinio'r gynhadledd lle anrhydeddwyd yr hanesydd a'r beirniaid ffilm Dave Berry â Gwobr Cyfrwng Siân Phillips 2005.
Lansiwyd ail rifyn Cyfrwng: Media Wales Journal – Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru hefyd yn ystod y gynhadledd, yn ogystal â Chanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans yng nghwmni aelodau o deulu y cymwynaswr hwnnw.
Cynhelir cynhadledd Cyfrwng 2006 ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.
Rhaglen 2005 : Clawr [PDF]
Rhaglen 2005 : Tudalennau mewnol [PDF]






