CYNHADLEDD CYFRWNG 2009
7-8 Mai 2009
BBC Cymru Wales, Caerdydd
'Cynulleidfaoedd'
Cynhelir cynhadledd Cyfrwng 2009 yng Nghanolfan Ddarlledu BBC Cymru, Caerdydd ar 7-8 Mai a’r thema eleni fydd ‘Cynulleidfaoedd’.
Rhaglen y Gynhadledd (fersiwn derfynol) [PDF]
Ffurflen Gofrestru [word] [PDF]
Bwydlen Cinio Cynhadledd Cyfrwng [word] [PDF]
Yn ystod y gynhadledd ddeuddydd bydd cyfres o siaradwyr, papurau a phaneli yn ystyried gwahanol agweddau ar gynulleidfaoedd y cyfryngau yng Nghymru, o’r newidiadau yn y defnydd o’r cyfryngau i faterion rheoleiddio ac atebolrwydd. Bydd y pwyslais ar anghenion penodol cynulleidfaoedd Cymreig mewn ystod eang o feysydd megis rhaglenni plant a chynulleidfaoedd y theatr. Rhoir sylw hefyd i effaith y cyfryngau newydd yn yr oes aml-blatfform. At hynny, bydd dyfodol newyddion yng Nghymru yn cael ei ystyried gyda phlwraliaeth newyddion yn rhan allweddol o’r drafodaeth. Bwriad y gynhadledd yw tynnu ynghyd ysgolheigion ac unigolion o’r diwydiant ac annog trafodaethau rhwng yr academi a’r cyfryngau.
Mae’r rhestr siaradwyr yn cynnwys:
Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru Wales
Alun Ffred Jones, AS a Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
Alun Davies, AS Llafur
Judith Isherwood, Prif Weithredwr Canolfan Mileniwm Cymru
Alan Edmunds, Cyfarwyddwr Golygyddol Media Wales a Golygydd y Western Mail
Elis Owen, Rheolwr Cenedlaethol, ITV Wales
Yr Athro Kevin Williams, Prifysgol Abertawe
John McGrath, Cyfarwyddwr Artistig, National Theatre Wales
Elwyn Williams, Rheolwr Marchnata, Theatr Genedlaethol Cymru
Dr Cynthia Carter, Prifysgol Caerdydd
Tony Wearn, Cyfarwyddwr Ymchwil, BARB
Sangeet Bhullar, Wise Kids
Yr Athro Hamish Fyfe, Prifysgol Morgannwg
Simon Marshall, First Light
Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant, S4C
Dr Ceri Sherlock, Uwch Gomisiynydd, Celfyddydau, BBC Cymru Wales
Nia Ceidiog, Cynyrchiadau Ceidiog Creations
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rebecca Williams, Prifysgol Abertawe ar r.s.williams@swansea.ac.uk
