English

Cyfrwng

Cynllun cyffrous yw Cyfrwng ag iddo dair elfen, sef cyfnodolyn aml-ddisgyblaethol newydd a gaiff ei gyhoeddi'n flynyddol gan Wasg Prifysgol Cymru, cynhadledd deithiol a gynhelir bob mis Ebrill, a'r wefan fywiog hon.

Nod Cyfrwng , trwy gyfrwng y tair elfen hyn, yw darparu fforwm ar gyfer cyflwyno ymchwil a thrafodaeth ysgolheigaidd ar y cyfryngau yng Nghymru, yn bennaf ffilm, teledu, radio, cyfryngau newydd, newyddiaduraeth ac astudiaethau perfformio a theatr.